Environmental knowledge between academia and journalism: A seminar with Dr Mat Hope (23rd May)

Rhannu gwybodaeth amgylcheddol rhwng academia a newyddiaduraeth: Seminar gan Dr Mat Hope

Dymuna’r Grŵp Ymchwil Gwleidyddiaeth Amgylcheddol a’r Ganolfan ar gyfer Gwleidyddiaeth Ryngwladol Gwybodaeth eich gwahodd i seminar gyda Dr Mat Hope.

Er gwell neu er gwaeth, ni fu gwybodaeth amgylcheddol erioed yn fater gwleidyddol mor ganolog ac heriol. Yn wir, mae misoedd cyntaf gweinyddiaeth Trump wedi codi cwestiynau am ddilysrwydd gwybodaeth amgylcheddol a hinsoddol o bob math. Mae hon yn datblygu’n broblem sy’n diffinio’n hoes ymhlith academyddion sy’n gweithio yn y meysydd hyn a newyddiadurwyr sy’n awyddus i sicrhau bod gwybodaeth o’r fath ar gael yn ehangach.

Ers gorffen ei Ddoethuriaeth mewn strategaethau cyfathrebu gwleidyddol yn nadleuon Cyngresol yr UD ar newid yn yr hinsawdd ym Mhrifysgol Bryste yn 2012, mae Dr Hope wedi gweithio fel dadansoddwr a gweithiwr i Carbon Brief, fel Golygydd Cysylltiol i’r cyfnodolyn Nature Climate Change ac, ers mis Hydref 2016, fel Dirprwy Olygydd DeSmog UK, sefydliad sy’n ymrwymedig i “ddadorchuddio dylanwad gormodol ymwrthod â gwyddoniaeth yr hinsawdd a’r diwydiant tanwydd ffosil ar bolisi’n ymwneud ag ynni a’r hinsawdd”.

Yn y seminar, bydd Dr Hope yn cyflwyno ei brofiad ei hun o symud rhwng gyrfaoedd academaidd ac an-academaidd, y sialensiau sydd ynghlwm â ffurfiau academaidd a newyddiadurol o gynhyrchu gwybodaeth, ei brosiectau ymchwil presennol yn DeSmog UK ac, wrth gwrs, y cyd-destun gwleidyddol cyfredol yma ac yn rhyngwladol.

Bydd y digwyddiad hwn, felly, yn berthnasol i unrhyw un sydd â diddordeb mewn:

·  Gwleidyddiaeth amgylcheddol gyfoes.

·  Y berthynas rhwng cynhyrchu gwybodaeth academaidd a newyddiadurol.

·  Llwybrau gyrfaol rhwng academia a newyddiaduraeth.

·  Cipolwg ‘y tu ôl i’r llen’ ar weithio ar gyfnodolyn megis Nature Climate Change.

·  Dyfodol gwareiddiad diwydiannol.

Amser a Lleoliad:

Dydd Mawrth, 23 Mai, 5.30-7pm, Y Brif Neuadd, Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Bywgraffiad Pellach:

Mae Mat Hope yn Ddirprwy Olygydd DeSmog UK. Dechreuodd Mat weithio yn DeSmog UK ym mis Hydref 2016, yn fuan ar ôl i’r DU bleidleisio i adael yr UE, ac mae wedi bod yn gweithio ar ehangu’r sylw i rwydweithiau sy’n cael eu grymuso o’r newydd. Mae’n ysgrifennu, golygu ac yn comisiynu erthyglau ar bob mater y mae DeSmog UK yn rhoi sylw iddynt. Bu Mat yn gweithio’n flaenorol fel Golygydd Cysylltiol ar gyfer Nature Climate Change, ac ef oedd yn gyfrifol am roi sylw i’r gwyddorau cymdeithasol gan ysgrifennu am sut y mae dadansoddiad gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd yn allweddol i ddeall yr heriau sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd. Rhwng 2012 a 2014, roedd Mat yn ddadansoddwr ac yn ysgrifennydd i Carbon Brief, gan roi sylw i bob agwedd ar ddadleuon yn ymwneud ag ynni a newid yn yr hinsawdd yn y DU, o wirio-ffeithiau safbwyntiau denier i adrodd am swyddogaeth y llywodraeth mewn trafodaethau rhyngwladol. Ganwyd Mat yng Nghaer-grawnt, y DU, ac astudiodd ym Mhrifysgol Bryste. Yn 2012, cwblhaodd ei PhD mewn strategaethau cyfathrebu gwleidyddol yn nadleuon Cyngresol yr UD ar newid yn yr hinsawdd, ac enillodd Wobr Hilary Hartley am y traethawd gorau yn nosbarth graddio ei adran. Mae Mat yn aelod o Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr.

Twitter: @matjhope

Environmental knowledge between academia and journalism: A seminar with Dr Mat Hope

The Environmental Politics Research Group and the Centre for the International Politics of Knowledge would like to invite you to a seminar with Dr Mat Hope.

For better or worse, environmental knowledge has never been more a more pivotal or contested political issue. Indeed, the early months of the Trump administration have challenged the very legitimacy of environmental and climatological knowledge of every kind. This is coming to be an era-defining problem for both academics working in these fields and journalists seeking to make such knowledge more widely available.

Since completing his PhD on political communication strategies in US Congressional climate change debates at the University of Bristol in 2012, Dr Hope has worked as an analyst and writer for Carbon Brief, as an Associate Editor for the journal Nature Climate Change and, since October 2016, as Deputy Editor of DeSmog UK, an organisation dedicated to   “uncovering the undue influence of climate science denial and the fossil fuel industry on energy and climate policy.”

In this seminar, Dr Hope will talk through his experience of moving between academic and non- or para-academic careers, the challenges of academic and journalistic forms of knowledge production, his current research projects at DeSmog UK and, of course, the contemporary political context both domestically and internationally.

This event will therefore be relevant to anyone interested in:

▪  Contemporary environmental politics.

▪  The relationship between academic and journalistic knowledge production.

▪  Career paths between academia and journalism.

▪  The ‘behind the scenes’ workings of a journal such as Nature Climate Change.

▪  The future of industrialised civilisation.

Time and Place:

Tuesday 23rd May, 5.30-7pm, Main Hall, Department of International Politics.

Extended Biography:

Mat Hope is Deputy Editor of DeSmog UK. Mat began working with DeSmog UK in October 2016, shortly after the UK voted to leave the EU, and has been working on expanding our coverage of newly empowered networks. He writes, edits and commissions articles on all issues covered by DeSmog UK. Mat previously worked as an Associate Editor for Nature Climate Change, handling its social science coverage and writing on how political, social and economic analysis is key to understanding the challenges associated with climate change. From 2012 to 2014, Mat was an analyst and writer for Carbon Brief, covering all facets of the UK’s energy and climate change debate, from fact-checking denier positions to reporting on the government’s role in international negotiations. Born in Cambridge, UK, Mat studied at the University of Bristol. In 2012, he completed his PhD on political communication strategies in US Congressional climate change debates, which won the Hilary Hartley prize as the best thesis in his department’s graduating class. Mat is a member of the National Union of Journalists.

Twitter: @matjhope

Screen Shot 2017-05-17 at 15.20.02

This entry was posted in Uncategorized. Bookmark the permalink.

Leave a comment